Etholiad Cyffredinol 2024 – y pleidleisio

Golwg yn ôl ar ddigwyddiadau diwrnod yr etholiad

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi cyn ac yn ystod yr etholiad dydd Iau (Gorffennaf 4), gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

09:53

Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – a Wanda – wedi bod allan i bleidleisio fore heddiw.

09:48

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bwrw ei bleidlais erbyn hyn. Roedd arweinydd Plaid Cymru yn Neuadd yr Henoed, Llangristiolus. Dyma oedd ganddo i’w ddweud:

09:33

Neges bwysig fan hyn gan Larry’r gath, sy’n byw yn 10 Downing Street. Cofiwch amdano fe, druan, wrth i chi fwrw eich pleidlais…

09:20

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dymuno pob lwc i ymgeiswyr y blaid heddiw.

“Bu’n bleser cael mynd allan a chwrdd â phobol ledled Cymru drwy gydol yr ymgyrch hon, ac rydyn ni bellach yn anelu am adref,” meddai.

“Pob lwc i bawb.”

09:15

Mae Neil McEvoy, ymgeisydd ac arweinydd Propel, yn dweud nad yw taflenni ymgyrchu wedi cael eu dosbarthu’n gywir yn etholaeth Gorllewin Caerdydd.

Mae’r Post Brenhinol wedi methu dosbarthu’r ffurflenni yn Y Tyllgoed, Canton, Caerau, Trelái, Pentre’ Baen a Phont-y-clun, meddai.

“Dw i ddim yn gweld pam ddylwn i, neu Propel, orfod talu’r arian i brintio’r taflenni iddyn nhw beidio cael eu hanfon.”

Neil McEvoy

‘Taflenni ymgyrchu heb eu dosbarthu’n gywir yng Nghaerdydd’

Rhys Owen

Mae’r ymgeisydd Propel Neil McEvoy yn dweud ei fod wedi gwneud “cwyn ffurfiol” i’r Post Brenhinol ynglŷn â’r mater

08:54

“Dim ond twpsyn llwyr fyddai’n proffwydo canlyniadau etholiad ar y diwrnod, gan wybod y bydd y canlyniadau wedi dod cyn i lawer o bobol ddarllen y darogan. Felly, i ffwrdd â ni…”

Dylan a’i broffwydoliaeth

Dylan Iorwerth

Mae pawb ond Llafur yn debyg o fod y tu ôl i Reform UK yn llawer o’r Cymoedd

Bydd Dylan yn un o’n criw o ddadansoddwyr yma ar golwg360 wrth i’r darlun ddechrau dod yn gliriach.

08:43

Tra ein bod ni’n aros i ddod â llun i chi o etholaeth Rhun ap Iorwerth, lle mae Llinos Medi yn sefyll, dyma ddadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol o’r ynys (tu ôl y wal dalu).

Etholiad ’24: Ynys Môn

Rhys Owen

Un o seddi mwyaf diddorol Cymru, lle mae disgwyl ras agos iawn rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Ceidwadwyr

08:35

Dyma oedd gan arweinydd Plaid Cymru i’w ddweud fore heddiw:

08:31

Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, wedi bod allan yng Nghaerdydd gyda’i dîm yn gynnar fore heddiw (Llun: X Vaughan Gething).

Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth fwrw ei bleidlais ym Môn unrhyw funud nawr.

07:30

Bore da!

Heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 4) yw’r diwrnod mawr.

Mae gorsafoedd pleidleisio ledled y wlad bellach ar agor, a byddan nhw’n cau am 10:00 heno. Yn fuan ar ôl hynny, bydd y pleidleisiau’n dechrau cael eu cyfri, ac fe gawn ni wybod yn y man pwy sydd wedi ennill.

Arhoswch gyda ni!