Morgan Owen
Does dim budd i’r Gymraeg o fod o dan adain Prydeindod, yn ôl Morgan Owen
Dan gochl Prydeindod y mae Cymru’n cael ei gwladychu. Ei choloneiddio, ei throi’n drefedigaeth. Diffinnir ‘gwladychu’ fel a ganlyn gan eiriadur Saesneg Rhydychen’: “setlo ymysg – a sicrhau rheolaeth dros – bobl frodorol rhyw ardal”; ac yn ogystal, “anfon gwladychwyr i ardal a sefydlu rheolaeth wleidyddol drosti”. I nifer o Gymry bydd y diffiniadau hyn yn taro tant, am mai disgrifiadau o’r sefyllfa a geir yn y Gymru sydd ohoni ydynt. Effaith Prydeindod yw caniatáu i fewnfudwyr Saesneg eu hiaith yng Nghymru defnyddio eu hiaith nhw yn unig a disgwyl i’r Cymry hwythau ddefnyddio’r Saesneg. Caniatäer i mi ymhelaethu ar y gosodiad hwn.
Yn gyntaf, dylid gwneud yn gwbl glir nad mewnfudo ynddo’i hun mo achos y gwladychu hwn. Prin y ceir unrhyw un yng Nghymru, boed yn Gymraeg ai peidio, nad oes ganddynt fewnfudwr yn eu hachau. Dros y blynyddoedd mae mewnfudwyr di-rif wedi eu cymathu’n Gymry, a digwydd hyn o hyd. Morwr o Cork yn yr Iwerddon oedd fy hen dad cu. Ond er cydnabod fy mod yn ddisgynnydd i Wyddelod yn ogystal â Chymry, yng Nghymru y’m ganed a’r diwylliant Cymreig – a Chymraeg – yw fy nghynhysgaeth i. Cymro ydwyf. Nid yw hon yn sefyllfa anghyffredin o gwbl ymysg y Cymry. Ffolineb gwallgof yw tybio bod y fath beth â phobl ‘bur’ yn bodoli; rhith yw hil.
Yn hytrach, yr wyf yn cyfeirio at sefyllfa a geir weithiau lle mae pobl Saesneg eu hiaith, yn bennaf o Loegr, yn symud i Gymru gan ddiystyru’r Gymraeg yn llwyr a’i ffieiddio. Gwnânt hyn am eu bod nhw, yn ôl eu rhesymeg eu hunain, ym Mhrydain ac felly ‘eu gwlad nhw’ yw Cymru yn gymaint ag y mae Lloegr yn ‘eu gwlad nhw’; a’r Saesneg yw ‘eu hiaith nhw’ gan mai hi yw iaith y DU a chan hynny yn iaith Prydeindod. Cofier, sylfaen Prydeindod yw uno pobloedd a orchfygwyd dan un iaith, a’r iaith honno yw’r Saesneg. Cysyniad trefedigaethol ydyw. Yr oedd yn rhaid wrth unffurfiaeth ieithyddol er mwyn rheoli ymerodraeth o genhedloedd amlieithog. O’r herwydd, gall rhai gyfiawnhau, yn eu barn nhw, symud i ardal Gymraeg a mynnu defnyddio’r Saesneg yn unig, a hyd yn oed ymgyrchu yn erbyn yr iaith Gymraeg.
Y caswir yw hwn: mae Prydeindod yn gyfystyr yn llwyr â Seisnigrwydd yn wleidyddol, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol ac felly mae’n caniatáu i Brydeinwyr o feddylfryd ymerodraethol barhau i fod yn Saeson yng Nghymru gan ddisgwyl i’r Cymry hwythau fabwysiadu eu hiaith nhw, y Saesneg. O ganlyniad, gwyrdroad yw’r hunaniaeth Gymreig a Chymraeg o’r safbwynt hwn. Dyna graidd trefedigaethedd. Gofynnwch i’ch hunain: pe bethau a ddaw i’r meddwl wrth ystyried Prydeindod? Sawl nodwedd Cymreig sydd i ‘Brydeindod’, heb sôn am Gymraeg…?
Arweinia hyn at sefyllfa lle y ceir yng Nghymru, yn enwedig yn y Fro (os oes y ffasiwn beth yn bodoli o gwbl y dwthwn hwn) wrthgyferbyniad absoliwt rhwng y boblogaeth Gymreig a Chymraeg lleol â’r mewnfudwyr Saesneg eu hiaith. Ceir eithriadau wrth gwrs. Gwn am nifer o fewnfudwyr Saesneg a ddysgodd yr iaith yn rhugl, ac yn wir, a’i llwyr feistrolodd ac y sydd bellach yn gystal Cymry ag unrhyw Gymro neu Gymraes arall. Ond ystyrier yr ystadegau canlynol:
Llanengan (Cyfrifiad 2011): Nifer a aned yng Nghymru: 55%; Nifer sy’n siaradwyr Cymraeg: 55%
Aberdyfi (Cyfrifiad 2011): Nifer a aned yng Nghymru: 35%; Nifer sy’n siaradwyr Cymraeg: 30%
Beddgelert (Cyfrifiad 2011): Nifer a aned yng Nghymru: 51%; Nifer sy’n siaradwyr Cymraeg: 53%
Harlech (Cyfrifiad 2011): Nifer a aned yng Nghymru: 49%; Nifer sy’n siaradwyr Cymraeg: 51%
Sylwer fel mae’r canran o bobl a aned yng Nghymru yn cyfateb bron yn berffaith â’r nifer o siaradwyr Cymraeg. Dengys hyn nid yw’r siaradwyr Saesneg yn cael eu cymathu i’r gymdeithas Gymraeg, er bod yn agos i 100% o’r bobl frodorol yn Gymraeg. Gellir ychwanegu swrn o enghreifftiau eraill i’r rhestr hon. Gwelir effaith ymarferol Prydeindod yng Nghymru yn yr ystadegau hyn: gwladychu. Nid rhoi’r bai ar y mewnfudwyr Saesneg eu hiaith ydw i; nid eu bai nhw yw’r ffaith fod Prydeindod yn cyd-daro yn llwyr â Seisnigrwydd. Mae pobl Saesneg eu hiaith yn cynrychioli dros 95% o boblogaeth y DU. Ond, mae’n amlwg ni ellir creu lle i’r Gymraeg o fewn Prydeindod, a thra bo Cymru yn rhan o’r DU, a thra bo Prydeindod yn cael ei hyrwyddo’n ddi-baid gan lywodraeth y DU, bydd mewnfudwyr Saesneg i ardaloedd Cymraeg ac i Gymru yn gyffredinol yn gallu honni nid oes rhaid iddynt siarad na chydnabod y Gymraeg am nad yw’n rhan o Brydeindod.
Mae’n hanfodol felly i barhad y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw yng Nghymru ein bod yn ymryddhau o’r camddealltwriaeth go dwyllodrus bod unrhyw fudd i Gymru a’i hiaith dan adain Prydeindod.
Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.