Mae’r Cynulliad wedi pasio cynnig sy’n golygu y bydd llai o bobol yng Nghymru yn medru hawlio budd-dal treth y cyngor.

Mae disgwyl y bydd 230,000 o gartrefi yng Nghymru o’r 330,000 sydd ar hyn o bryd yn derbyn budd-dal llawn yn gorfod talu o leiaf ychydig o dreth cyngor o hyn ymlaen.

Dywedodd Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr ei bod hi’n “eironig” fod Llywodraeth Cymru yn barod i brynu maes awyr Caerdydd ond ddim yn barod i roi cymhorthdal tuag at y dreth cyngor.

Plaid: ‘Methiant gan y Llywodraeth i ddiogelu’r tlotaf’

Daeth y bleidlais ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi y bydd y cymhorthdal maen nhw’n ei dalu tuag at y budd-daliadau treth cyngor yn cael ei dorri 10% o 2013-14 ymlaen.

Mae’r dreth cyngor yn fater sydd wedi cael ei ddatganoli ond Llywodraeth Prydain sy’n pennu pwy sydd â’r hawl i dderbyn budd-dal, a faint o fudd-dal.

“Efallai bod y toriadau hyn yn dod o San Steffan yn wreiddiol ond maen nhw’n cael eu trosglwyddo yn eu cyfanrwydd gan Lywodraeth Cymru sydd yn sicr ddim yn sefyll lan dros Gymru.

“Roedd Plaid Cymru wedi dadlau y dylai Cymru ddilyn yr Alban a diogelu’r cartrefi mwyaf bregus drwy lenwi’r bwlch am y flwyddyn gyntaf o leiaf,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

Ail ymgais i basio’r Cynnig

Heddiw oedd yr ail ymgais i basio’r cynnig, ac mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am geisio “gwthio’r aelodau i gymeradwyo 300 o dudalennau o reoliadau heb amser i’w darllen nhw.”

Methodd aelodau’r Cynulliad â dod i gytundeb ar Ragfyr 5 am nad oedd aelodau’n teimlo eu bod nhw wedi cael digon o amser i graffu’r cynlluniau.

“Tra’n bod ni’n croesawu rhoi sêl bendith i’r rheoliadau hyn, mae’r llanast yma wedi bod yn embaras llwyr ac mae’n symbolaidd o Lafur ddiog,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol.