Mae Llywodraeth San Steffan wedi rhoi sêl bendith i ganiatáu’r broses ddadleuol o ffracio barhau yn y DU.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey heddiw y gallai tyllu am nwy siâl ail-ddechrau yn y DU, ar yr amod bod canllawiau newydd yn cael eu cyflwyno i leihau’r risg o ddaeargrynfeydd bychan.
Bu’n rhaid i gwmni nwy Cuadrilla roi’r gorau i’w gynlluniau i dyllu am nwy siâl yn Swydd Gaerhirfryn 18 mis yn ôl ar ôl i’r broses o ffracio achosi dau ddaeargryn bach iawn. Mae ffracio’n golygu chwistrellu tywod a hylif i’r creigiau dan ddaear i’w gwahanu a rhyddhau’r nwy.
Mae’r cwmni’n credu y gallai ddarparu chwarter cyflenwad nwy’r DU o’r safle yn Swydd Gaerhirfryn, gan olygu na fyddai’r wlad mor ddibynnol ar fewnforion o Qatar neu Rwsia.
Mae’r Trysorlys eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i’r diwydiant, gyda chynlluniau i roi gostyngiad treth am nwy siâl.
Llandŵ
Fe fydd y penderfyniad ynglŷn â chaniatáu i Cuadrilla barhau i ffracio yn Swydd Gaerhirfryn yn dylanwadu ar gwmnïau eraill sy’n awyddus i ddechrau archwilio am nwy siâl mewn safleoedd eraill yn y DU.
Mae grŵp o wrthwynebwyr, Vale Says No, wedi bod yn ymgyrchu ym Mro Morgannwg yn erbyn cynlluniau i ganiatáu i gwmni dyllu am nwy siâl yn Llandŵ.
Mae’r Aelod Seneddol lleol, y Ceidwadwr Alun Cairns, wedi bod yn lleisio ei wrthwynebiad i ffracio. Ym mis Gorffennaf dywedodd,
“Rwyf i a llawer o drigolion a busnesau lleol yn bryderus iawn am effeithiau’r broses o archwilio am nwy siâl, a’r gwaith o ffracio am nwy os yn wir y bydd nwy yn cael ei ddarganfod dan ddaear.
“Mae’r Fro yn lle bendigedig i fyw a gweithio, a hoffwn i ei chadw hi fel yna.”
Mae Golwg360 yn disgwyl clywed yn ôl gan Alun Cairns y bore ma.
‘Penderfyniad byrbwyll’
Mae amgylcheddwyr yn dadlau y gallai’r broses o ffracio – sef chwistrellu dŵr a thywod i’r ddaear er mwyn gwneud i nwy godi o’r graig islaw – achosi niwed parhaol i’r amgylchedd gan gynnwys llygru cyflenwadau dŵr.
Y bore ma dywedodd Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear, Andy Atkins, fod penderfyniad y Llywodraeth yn un “byrbwyll” a fydd yn “bygwth llygru ein aer a’n dŵr ac yn tanseilio targedau hinsawdd.”
“Bydd ein helfa am nwy yn ein gadael ni’n ddibynnol ar ynni craidd brwnt,” meddai.
WWF Cymru: ‘ansicrwydd’ ynghylch nwy siâl
Mae WWF Cymru yn dadlau y byddai gorddibynnu ar nwy yn golygu na fydd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn gallu cyflawni eu hymrwymiad i leihau carbon.
Dywedodd Swyddog Polisi WWF Cymru, Alun James:
“Er gwaethaf yr holl frolio, mae cryn ansicrwydd o hyd ynglŷn â faint o nwy siâl sydd yn y ddaear ac a fydd yn werth chweil yn gymdeithasol, yn amgylcheddol neu’n economaidd i’w echdynnu.
“Nwy fu prif achos codiadau ym miliau pobol dros y deng mlynedd diwethaf a disgwylir i brisiau nwy barhau i godi.
“Rhaid i Gymru ymuno â’r Deyrnas Unedig gyfan wrth chwarae ein rhan mewn lleihau’r defnydd o danwyddau ffosil er mwyn cadw rhag effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd.
“Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn barod i roi’r gorau i ddefnyddio glo, olew a nwy yn raddol, a gwneud mwy i gael buddion effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Y newyddion da yw bod yr economi werdd yn sector sy’n ffynnu ac sy’n cynnig cyfleoedd enfawr o ran creu swyddi.”