Llosgydd gwastraff
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyfrannu at astudiaeth o effeithiau posib llosgyddion gwastraff ar iechyd.

Mae Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad yn ymateb i ddeiseb sy’n galw am adolygu gwasanaethau gwaredu gwastraff, a’r ‘Prosiect Gwyrdd’ yn benodol, sy’n bartneriaeth o bum awdurdod lleol yn y de a’r de-ddwyrain i waredu gwastraff.

Dywedodd y gwenwynegydd, yr Athro Vyvyan Howard, wrth y pwyllgor fod allyriadau o losgyddion yn debygol o gynnwys mwy o ddifwynwyr nag allyriadau o weithfeydd eraill oherwydd eu bod yn llosgi gwastraff sy’n cynnwys metalau trwm a phlastigau synthetig sy’n cynhyrchu anweddau gwenwynig.

Ond roedd tystiolaeth hefyd yn dangos bod astudiaeth swyddogol gan Lywodraeth y DU wedi methu â sefydlu unrhyw gyswllt pendant rhwng allyriadau llosgyddion ac effeithiau andwyol ar iechyd y cyhoedd.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyfrannu at astudiaeth gynhwysfawr i archwilio unrhyw beryglon posibl a allai fod yn gysylltiedig â gronynnau bach iawn sy’n cael eu rhyddhau gan losgyddion.

‘Ymateb i bryderon’

Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Mae’r Pwyllgor wedi argymell hyn fel modd o ymateb i bryderon y deisebwyr a gyflwynodd y mater i ni.

“Rydym ni’n cydnabod bod angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ddod o hyd i ffordd ddibynadwy o ymdrin â’r llif parhaus o wastraff rydym yn ei chynhyrchu, a does dim amheuaeth gennym y bydd y drafodaeth ynghylch sut mae cael gwared arno’n parhau am beth amser.

“Yn amlwg, mae hwn yn fater y mae pobl yn teimlo’n gryf yn ei gylch, ac mae’r Pwyllgor wedi’i galonogi gan ymroddiad y deisebwyr hynny sy’n parhau i chwilio am ddulliau mwy effeithlon a mwy cynaliadwy inni fyw o fewn ein hôl-troed ecolegol yma yng Nghymru.”

Argymhellion

Mae’r Pwyllgor yn gwneud tri argymhelliad arall yn ei adroddiad:

  • Mae’r Pwyllgor yn cydnabod mai grymoedd y farchnad a fydd yn penderfynu pa dechnoleg gwastraff sy’n fforddiadwy, ond mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud ei gorau i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed (o ran ailgylchu gwastraff) o 70% erbyn 2025
  • Mae’r Pwyllgor yn argymell na ddylai awdurdodau lleol fod yn rhwym i gontractau hir a allai eu hatal rhag cyrraedd y targed o 70% erbyn 2025.
  • Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i gyfleoedd i hybu technolegau newydd i ymdrin â gwastraff a allai, dros gyfnod, gynnig dulliau dichonadwy o drin gwastraff heb orfod ei losgi.