Karina Menzies (Llun:Facebook)
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi’n ffurfiol heddiw mai Karina Menzies, 32 oed, a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig y tu allan i Orsaf Dân Trelái dydd Gwener diwethaf.

Maen nhw hefyd wedi rhyddhau’r deyrnged ganlynol iddi gan ei theulu:

“Roedd Karina yn ferch fendigedig. Mi roedd hi’n byw ar gyfer ei phlant a’i brodyr a’i chwiorydd, ac roedd popeth oedd yn ei wneud ar gyfer ei theulu.

“Roedd yn ffrind da i bawb ac roedd parch uchel iddi yn y gymuned. Mi fydd pawb yn ei cholli’n ofnadwy.”

Mae’r teulu wedi gofyn am lonydd i alaru.

Fe ymgasglodd cannoedd o bobl y tu allan i Orsaf  Dân Trelái prynhawn ’ma i dalu teyrnged i Karina. Fe gafwyd munud o ddistawrwydd ac fe gafodd cerddoriaeth ei chwarae.

Mae’r dyn 31 oed a arestiwyd ar amheuaeth o lofruddiaeth yn parhau i fod yn y ddalfa.

Mae Heddlu De Cymru wedi sefydlu rhif ffôn arbennig ar gyfer unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau yn Nhrelái neu Llecwydd (Leckwith) dydd Gwener, neu sydd ag unrhyw bryderon am y digwyddiadau.

Y rhif arbennig yw 0800 096 00 95.

Gallwch hefyd ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.