April Jones
Roedd yna oedi ar Bont ar Ddyfi ger Machynlleth neithiwr wrth i Heddlu Dyfed-Powys holi gyrwyr am April Jones.

Roedden nhw’n atal pob car wrth iddyn nhw groesi’r bont i mewn ac allan o’r dref, a hynny union wythnos ers i’r ferch fach 5 oed ddiflannu.

Roedd yr heddlu’n holi pobol yn benodol a oedden nhw wedi gweld cerbyd glas tua’r un adeg wythnos yn ôl.

Mae llawer o waith chwilio’r heddlu wedi canolbwyntio ar yr afon o boptu’r bont.

Gollwng llusernau

Fe gafodd llusernau Chineaidd a balwnau eu gollwng i’r awyr hefyd i gofio am April, gan gynnwys llusern gan ei rhieni, Paul a Coral Jones.

Roedd digwyddiadau tebyg yn Nhywyn ac Aberystwyth ac roedd Tŵr Blackpool wedi ei oleuo’n binc hefyd.

Y cyhuddiadau

Ddoe, fe gafodd dyn o ardal Machynlleth, Mark Bridger, ei gadw yn y ddalfa ar dri chyhuddiad – o lofruddio a chipio April Jones ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder trwy guddio corff neu gael gwared ar gorff.