Llys Ynadon Chorley
Mae dyn ifanc wedi cael ei gyhuddo o wneud sylwadau ffiaidd am achos April Jones ar wefan gymdeithasol.
Fe fydd Matthew Wood, 20 oed, o Chorley yn Lancashire yn ymddangos o flaen llys ynadon yn y dref yfory.
Mae wedi ei gyhuddo ynghylch sylwadau hondig a wnaeth ar y wefan gymdeithasol, Facebook.
Mae’r cyhuddiad o anfon negeseuon “enbyd o ffiaidd” yn cael ei ddwyn o dan Ddeddf Gyfathrebu 2003.