Mae disgwyl i Fachynlleth ddod i stop heddiw wrth i gannoedd o bobol gynnal gorymdaith drwy’r dref i gofio am April Jones.

Ddoe cafodd Mark Bridger, 46, sy’n byw’n lleol, ei gyhuddo o lofruddio’r ferch 5 oed. Mae’r chwilio am April wedi dwyshau ac, er gwaetha’r cyhoeddiad prynhawn ma, mae trigolion Machynlleth yn dal i obeithio y bydd yn cael ei darganfod yn fyw.

Fe fydd trigolion sy’n byw ar stad Bryn-y-Gog lle mae cartref April, yn arwain gorymdaith i’r eglwys ac fe fydd yr heddlu’n cau’r brif ffordd drwy’r dref farchnad yn ystod yr orymdaith.

Yn gynharach yr wythnos hon bu’r gymuned yn gwisgo rhubanau pinc ac yn eu rhoi ar siopau a drysau eu tai mewn symbol o obaith bod April dal yn fyw.

Roedd yn dilyn apêl gan ei mam, Coral Jones, 40, i bobl wisgo rhubanau pinc – hoff liw ei merch.

‘Gobaith a chysur’

Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys San Pedr ac yn cael ei arwain gan Esgob Bangor, y Gwir Parchedig Andrew John.

Ei neges, meddai, fydd dweud wrth bobol “bod yn rhaid iddyn nhw fod yno i helpu ei gilydd yn ystod cyfnodau trasig fel hyn,” a chynnig “gweddi, gobaith a chysur” i bobol.

Roedd gwylnos yn cael ei chynnal heno yn yr eglwys.