Mae pobl yng Nghymru yn byw bywydau hirach ac iachach ond mae disgwyliad oes yn codi’n arafach yn yr ardaloedd difreintiedig, yn ôl adroddiad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Yng Nghaerdydd er enghraifft, 71.5 mlwydd oed yw disgwyliad oes dynion yn Grangetown, ond yn Ninas Powys ym Mro Morgannwg, rhyw bum milltir i ffwrdd, gall dynion ddisgwyl byw hyd at 81.8 mlwydd oed.

Mae ffordd o fyw afiach – lefelau isel o ymarfer corff, yfed gormod o alcohol, ac arferion bwyta afiach – yn parhau i fygwth iechyd yn y tymor hir.

Meddai Dr Tony Jewell:  “Mae’r bwlch i’w weld fwyaf mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol; mae’r cyfraddau dair gwaith a hanner yn uwch ymysg dynion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a mwy na dwywaith yn uwch ymysg menywod.

“Felly hefyd gyda marwolaethau oherwydd clefydau anadlol a smygu, mae’r cyfraddau yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig fwy na dwywaith y rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.”

Er mwyn mynd  i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, mae angen rhoi dechrau iach i blant o ardaloedd difreintiedig, gan gynyddu’r gefnogaeth i rieni, a hybu iaith a datblygiad plant, meddai.

‘Iechyd yn gwella’

Serch hynny,  mae iechyd ar gyfartaledd yn gwella gyda disgwyliad oes dynion yn dal i fyny â disgwyliad oes menywod.

Mae gostyngiad yn nifer y marwolaethau oherwydd clefydau cardiofasgwlaidd, a lleihad yn y cyfraddau smygu ymysg plant ac oedolion, wedi cyfrannu at welliant yn iechyd pobl yng Nghymru, a’u disgwyliad oes, meddai.

Wrth lansio ei adroddiad blynyddol olaf , dywedodd Dr Tony Jewell: “Mae disgwyliad oes wedi bod yn codi dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae disgwyliad oes dynion wedi codi i 77.6 mlwydd oed, gan leihau’r bwlch sydd rhyngddo â disgwyliad oes menywod (81.8 mlwydd oed), ac mae hyn yn welliant mawr.

“Mae’r cyfraddau smygu ymysg dynion wedi gostwng yn sylweddol ers y saithdegau. Yn hanesyddol, roedd dynion yn fwy tebygol o smygu na menywod, ond mae cyfraddau smygu ymysg dynion wedi bod yn gostwng dros gyfnod hirach.

“Fodd bynnag, mae’r peryglon i iechyd oherwydd smygu yn dal yn broblem ymhlith dynion a menywod fel ei gilydd, ac mae cyfraddau marwolaeth oherwydd canser yr ysgyfaint ymysg menywod wedi codi dros y deng mlynedd diwethaf.

“Mae saith deg y cant o smygwyr yng Nghymru eisiau rhoi’r gorau iddi, ac mae’r ffigyrau yma’n dangos bod ein gweledigaeth i gael cymdeithas ddi-fwg yng Nghymru yn iawn.”

Cyfraddau beichiogrwydd

Mae’r cyfraddau smygu ymysg pobl ifanc yn mynd i lawr, ac mae cyfraddau beichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau yn parhau i ostwng, gan gyrraedd y cyfraddau isaf ers deunaw mlynedd, meddai Dr Tony Jewell.

“Y rheswm pennaf am hyn yw cydweithio da rhwng y GIG, awdurdodau addysg ac awdurdodau lleol wrth sicrhau darpariaeth ym maes iechyd rhywiol. Mae beichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau cynnar yn gysylltiedig â chanlyniadau gwael ar gyfer y fam a’r baban, felly mae hyn yn beth calonogol.”

Dyma adroddiad blynyddol olaf Dr Tony Jewell, 61, sy’n ildio’r awenau dros yr haf,

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd: “Rwy’n croesawu’r adroddiad yma gan y Prif Swyddog Meddygol, sydd wedi cyflawni cymaint yn ystod ei chwe blynedd yn y swydd.

“Hoffwn ddiolch i Dr Jewell am ei ymroddiad wrth fynd i’r afael â smygu. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’i olynydd i symud i gyfeiriad Cymru sy’n ddi-fwg.”