Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn cyhoeddi deddfwriaeth heddiw ar roi organau. Bydd y mesur drafft yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno system ble bydd pobol yn cael eu cynnwys yn awtomatig ar restr rhoi organau, oni bai eu bod nhw’n datgan eu gwrthwynebiad i hynny.
Mae Lesley Griffiths wedi bod yn cyhoeddi’r ddeddfwriaeth yn stadiwm athletau Llecwydd yng Nghaerdydd a bydd y Llywodraeth nawr yn ymgynghori ar y newidiadau dros gyfnod o dri mis.
Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r system newydd o dybio bob pobol am roi organau ond wedi dweud bod hi’n bwysig fod trafodaeth lawn ar y mater er mwyn i bryderon pobol gael eu clywed.
Ym mis Ebrill dywedodd Cymdeithas y Cyfreithwyr fod agweddau o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar roi organau yn “aneglur”. Cododd y Gymdeithas gwestiynau ynglŷn â materion traws-ffiniol rhwng Cymru a Lloegr, ac amheuon ynglŷn â hawl y teulu i wrthod rhoi organau perthynas a fu farw.
“Gall rhoddwr arbed bywydau naw o bobol eraill”
Dywedodd Lesley Griffiths fod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno’r newidiadau i’r drefn rhoi organau yn 2015.
O dan y drefn newydd caiff pobl y cyfle i nodi eu bod yn rhoddwyr ac optio i mewn neu fel arall i beidio â bod yn rhoddwyr ac optio allan drwy osod eu henw ar gofrestr.
Bydd y gwasanaeth iechyd yn tybio fod pobol dros 18 oed sy’n dewis peidio gwneud y naill na’r llall yn cydsynio i roi eu horganau i’w trawsblannu, ond dywed y Llywodraeth heddiw “na fydd modd bwrw ymlaen heb gymorth y teulu” ac y bydd modd i deuluoedd ddatgan gwrthwynebiad. .
Dywedodd y Gweinidog Iechyd mai nod y newid yn y gyfraith fydd cynyddu nifer y rhoddwyr organau a meinweoedd ac i arbed bywydau.
“Gall un rhoddwr wella ac arbed bywydau hyd at naw o bobol eraill drwy roi eu horganau a llawer mwy drwy roi eu meinweoedd” meddai Lesley Griffiths.
“Mae Cymru wedi gweld cynnydd o 49% yn y cyfraddau rhoi organau ers 2008, ac mae hyn yn llwyddiant anferthol i fod yn falch ohono. Ond mae prinder organau i’w trawsblannu o hyd. Yn 2011/12 bu farw 37 o bobl yng Nghymru tra’r oeddent yn aros am organ.
“Rwy’n credu bod yr amser wedi dod i gyflwyno newid yn y gyfraith, ynghyd â rhaglen gyfathrebu ac addysgu eang i annog pobl i wneud penderfyniad ac i sicrhau bod eu teuluoedd yn gwybod beth yw eu dymuniadau.”
Yn y lansiad heddiw cyfarfu’r Gweinidog Iechyd â dau athletwr sydd wedi derbyn organau gan roddwyr ac sydd wedi cystadlu yng Ngemau Trawsblannu’r Byd – Stuart Davies o Fancffosffelen a Tracy Baker o Gastell Nedd.