Leighton Andrews - am weld athrawon yn rhannu profiad
O fis Medi ymlaen, fe fydd athrawon sydd newydd gymhwyso yn cael y cyfle i ddilyn cwrs Meistr. Ac mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn cyhoeddi heddiw fod Llywodraeth Cymru yn chwilio am bobol i’w mentora nhw.

Fe fydd pob athro neu athrawes sydd newydd ddilyn cwrs tystysgrif Addysg yn cael astudio am radd bellach fel rhan o’u Rhaglen Ymsefydlu a’u Datblygiad Proffesiynol Cynnar.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd enwebiadau o ysgolion ac awdurdodau addysg gan “unigolion profiadol a chanddynt brofiad diweddar a pherthnasol ym maes ymarfer addysgol” i fod yn fentor ar athro ifanc.

Dau brif fwriad y cynllun, yn ôl y Gweinidog, ydi codi safonau addysgu yng Nghymru, a rhoi’r cyfle i bobol brofiadol fod yn rhan o “rwydwaith newydd a chyffrous” o fentoriaid ledled Cymru.

“Rhan allweddol o godi safonau a pherfformiad mewn ysgolion yng Nghymru yw datblygu athrawon sy’n meddu ar sgiliau o’r safon uchaf bosib, ac sy’n gallu cyflawni o ran sicrhau addysgu a dysgu effeithiol yn yr ystafell ddosbarth,” meddai Leighton Andrews.

“Rwyf yn ffyddiog y bydd ein rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol yn ein helpu ni i gyflawni hynny, ond bydd angen cymorth a chyfarwyddyd gan y gorau ar athrawon newydd gymhwyso.

“Dyna’r rheswm ein bod yn chwilio am athrawon gwych i fod yn fentoriaid er mwyn sicrhau y gallan nhw drosglwyddo eu gwybodaeth a’u profiad eang i’r genhedlaeth nesaf o addysgwyr yng Nghymru,” meddai.