Roedd cynnydd mawr y llynedd yn nifer yr achosion o’r pâs (whooping cough) yng Nghymru, yn ôl yr Asiantaeth Diogelu Iechyd.

Roedd 67 achos yng Nghymru yn 2011, o’i gymharu â 13 yn 2010, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae 16 achos eisoes wedi ei gadarnhau yng Nghymru eleni, o fis Ionawr i ddiwedd mis Mawrth.

Mae’r pâs yn haint yn leinin y llwybrau anadlu. Mae’n effeithio yn bennaf ar y bibell wynt (tracea) a’r llwybrau anadlu sy’n mynd ohono i’r ysgyfaint (y bronci).

Y prif symptom yw ffit o beswch croch. Mae’n effeithio’n bennaf ar fabanod a phlant ifanc.

Yn ôl yr Asiantaeth Gofal Iechyd, mae tri phlentyn eisoes wedi marw o’r clefyd yng Nghymru a Lloegr eleni.

Rhybuddiodd Dr Mary Ramsay, pennaeth imiwnedd yr Asiantaeth Gofal Iechyd, y dylai unrhyw un sy’n dangos symptomau’r clefyd fynd yn syth ar eu meddyg teulu.

Dywedodd ei fod yn bwysig bod plant yn cael eu himiwneiddio yn erbyn y pâs, yn enwedig cyn dechrau ysgol.