Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw am roi’r un blaenoriaeth i bobol sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Yn ôl Kirsty Williams, mae angen i broblemau iechyd meddwl gael yr un ystyriaeth â phroblemau iechyd corfforol.

Daw’r galwadau yn sgil cais rhyddid gwybodaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n datgelu bod y nifer o bobol sy’n gorfod dychwelyd am driniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl yng Nghymru yn aruthrol o uchel.

Yn ôl ffigyrau’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae 435 o gleifion dan ofal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi gorfod dychwelyd am driniaeth o fewn blwyddyn i ddiwedd eu triniaeth flaenorol.

Bu’n rhaid i 127 o gleifion iechyd meddwl dan ofal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddychwelyd am driniaeth o fewn 28 diwrnod.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae hyn yn gwneud niwed i’r cleifion, eu teuluoedd, ac mae’n faich ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd.

Maen nhw yn galw ar y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r broblem trwy sicrhau y bydd cleifion yn cael gofal gwell ar ôl iddynt ddychwelyd o’r ysbyty.

“Mae ystadegau fel hyn yn arf pwysig iawn wrth gynllunio ar gyfer y gwasanaeth iechyd,” meddai Kristy Williams, heddiw.

“Dydi’r cylch yma o orfod dychwelyd am driniaeth o hyd ddim yn gwneud lles i gleifion, eu teuluoedd, nac yn wir i’r gwasanaeth iechyd. Allwn ni ddim a chaniatáu i’r system barhau fel hyn,” meddai.

“Mae cyfraddau’r bobol sy’n dychwelyd am driniaeth yn arwydd o broblemau posib yn y system o ryddhau’r cleifion o’u triniaeth. Mae’n bosib fod gormod o gleifion yn cael eu rhyddhau cyn eu bod nhw’n barod i adael yr ysbyty.

“Mae hi hefyd yn wir nad yw rhai cleifion yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw unwaith iddyn nhw gael eu rhyddhau,” meddai Kristy Williams.

“Mae’n hanfodol fod y cleifion yn cael cynllun gofal da a bod ganddyn nhw gydlynydd gofal fel eu bod nhw’n derbyn y gofal trylwyr sydd ei angen arnyn nhw.”

Fel rhan o’r broses o wella’r ddarpariaeth iechyd meddwl, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ystadegau fel hyn yn gyson, yn hytrach na gorfodi pobol i fynd trwy’r system Rhyddid Gwybodaeth yn gyntaf.

“Dyw hi ddim yn iawn ein bod ni’n gorfod mynd trwy’r broses Rhyddid Gwybodaeth er mwyn sicrhau bod ystadegau hanfodol fel hyn yn agored i’r cyhoedd,” meddai Kirsty Williams.

“Ar hyn o bryd mae diffyg mawr yn yr ystadegau sydd ar gael o safbwynt iechyd meddwl, sydd yn dangos nad ydi iechyd meddwl yn cael y sylw y mae wir ei angen.

“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn credu bod angen dynodi un ffordd gyffredin i’r Byrddau Iechyd Lleol gofnodi’r ffigyrau hyn.

“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i roi’r un flaenoriaeth a’r brys i iechyd meddwl ag y maen nhw yn ei roi i iechyd corfforol.”