Mae’r llofrudd Peter Moore o Ogledd Cymru wedi colli ei apêl yn erbyn dedfryd o garchar am oes mewn llys Ewropeaidd heddiw.

Roedd Peter Moore, ynghyd â dau lofrudd arall, wedi mynd â’u hachos o flaen Llys Hawliau Dynol Ewrop er mwyn ceisio dadlau bod dedfrydu rhywun i oes o garchar yn erbyn eu hawliau dynol.

Ond heddiw, fe benderfynodd barnwyr Ewrop y gallai rhai o lofruddwyr mwyaf peryglus Prydain gael eu cadw dan glo am weddill eu hoes.

‘Annynol

Roedd y llofruddwyr yn honni fod condemnio carcharorion i farw yn y carchar gyfystyr â “thriniaeth annynol neu ddiraddiol,” yn ôl diffiniad Erthygl 3 o Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop.

Ond gwrthod eu hachos wnaeth y llys Ewropeaidd heddiw, a chytuno gyda phenderfyniadau’r Uchel Lys yn Llundain, gan ddweud fod “dedfryd oes yn angenrheidiol, ac yn dilyn ystyriaeth teg a manwl.”

Roedd tîm cyfreithiol y cyn-berchennog sinema o Bagillt yng ngogledd Cymru, oedd hefyd yn cynrychioli’r llofruddwyr Jeremy Bamber a Douglas Vinter, wedi cyflwyno’u cais ger bron y Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd ers 2009.

Ond mae eu hachos wedi ei wrthwynebu’n chwyrn gan y Gweinidog Cyfiawnder Kenneth Clarke, sy’n dweud fod y llywodraeth yn “brwydro’n galed i amddiffyn yr egwyddor o garchariad gydol-oes.”

Dan y drefn bresennol, mae hi bron yn sicr nad fydd carcharorion oes yn cael eu rhyddhau o’r carchar, ar y sail fod eu troseddau mor ddifrifol.

Cafodd y Peter Moore, 65 oed, ei garcharu yn 1996, ar ôl iddo gael ei arestio am lofruddio pedwar dyn er mwyn ei “foddhad rhywiol.”