David Melding
Mae Dirprwy Lywydd y Cynulliad, David Melding, wedi rhybuddio y gallai’r Deyrnas Unedig chwalu erbyn 2020.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol ei fod yn credu y gallai hanes penderfyniad cenedlaetholwyr Iwerddon i adael y DU ar ddechrau’r 20fed ganrif ailadrodd.

“Mae’n bryd i’r Ceidwadwyr a Llafur uno er mwyn cytuno ar ddewis amgen cyffrous i annibyniaeth Geltaidd,” meddai.

“Fe fyddai yn un sy’n dathlu’r ffaith bod pob un o wledydd Prydain yn sofren ond yn dewis ffurfio un wladwriaeth Brydeinig.”

Ychwanegodd fod angen gweithredu er mwyn creu “ffederasiwn Prydeinig” fyddai yn cadw Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda’i gilydd.

Wrth ysgrifennu ar wefan Wales Home dywedodd fod angen i’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur weithio gyda’i gilydd er mwyn cydnabod sofraniaeth y gwledydd unigol.

“Heddiw mae anobaith wedi disodli hunanfoddhad ymysg unoliaethwyr ac mae gan yr SNP y fantais,” meddai.

“Mae nifer o unoliaethwyr bellach yn credu nad oes modd osgoi annibyniaeth.

“Maen nhw’n pryderu y bydd refferendwm yn cael ei gynnal yn hydref 2015 ar ôl ail-ethol y Glymblaid heb unrhyw gefnogaeth gan yr Albanwyr.

“Mae angen polisi Prydeinig i achub yr Undeb, nid polisi Ceidwadol neu Lafur. Mae angen cydnabod yn ffurfiol sofraniaeth y Gwledydd Cartref.

“Fe fyddai modd datgan hyn mewn Deddf Uno newydd. Fe fyddai hyn yn hawdd gan fod pob un o’r prif bleidiau yn derbyn yr hawl i hunan-benderfyniad cenedlaethol.

“Fe fyddai yn sicrhau fod Prydain yn wladwriaeth ffederal.”