Mae Golwg360 wedi darganfod bod S4C wedi anfon dogfen briffio uniaith Saesneg at holl Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol, cyn iddyn nhw drafod dyfodol y Sianel Gymraeg ar lawr y Senedd yn gynharach yr wythnos hon.
Ac mae llefarydd S4C wedi cadarnhau bod dogfen arall gan y Sianel, oedd wedi ei chyflwyno i Bwyllgor Dethol yn San Steffan, bellach wedi ei chyfieithu ar ôl ymddangos ar eu gwefan yn uniaith Saesneg.
Er bod mwyafrif y cynnwys ar wefan S4C yn ddwyieithog, roedd y ddogfen bum tudalen yn uniaith Saesneg nes i Golwg360 dynnu sylw’r Sianel at y peth.
Roedd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adolygiad llawn o reolaeth S4C brynhawn ddydd Mawrth, gyda nifer yn galw am ddatganoli grymoedd dros redeg S4C i Gymru.
Ymhlith y pwyntiau sy’n cael eu codi yn y ddogfen briffio, mae S4C yn dweud, yn Saesneg, eu bod nhw’n “cydnabod eu bod nhw mewn sefyllfa allweddol… i gefnogi defnydd ehangach o’r iaith Gymraeg mewn cyfryngau newydd”.
“Anffodus”
Yn ôl yr Aelod Cynulliad Bethan Jenkins mae’n “anffodus” nad oedd S4C wedi darparu’r ddogfen yn y Gymraeg
“Fel Sianel sydd yn hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg, byddai anfon tystiolaeth yn y Gymraeg wedi bod yn fuddiol,” meddai.
“Mae’n anffodus nad oeddent wedi rhoi papur Cymraeg i ni o feddwl bod yr holi yn y pwyllgor gennyf i, o leiaf, wedi digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Pan ofynodd Golwg360 pam nad oedd y ddogfen briffio wedi ei anfon allan yn ddwyieithog, dywedodd llefarydd ar ran S4C nad oedd yn rhaid i “brîff sy’ ddim yn cael ei wneud yn gyhoeddus” fod yn Gymraeg. “Ma’ hawl ’da hwnnw fod yn Saesneg.”
Yn ôl Bethan Jenkins mae hi wedi cael addewid y bydd S4C yn darparu copi Cymraeg o’r ddogfen briffio iddi hi ddydd Llun.
Catrin Haf Jones