Gyda ffrae fawr yn corddi rhwng undebau’r athrawon a Llywodraeth Prydain ynghylch pryd i ailagor ysgolion, mae un cyn-brifathro wedi dweud wrth golwg360 nad yw am weld y plant yn dychwelyd yn rhy gynnar.
Ar hyn o bryd mae ysgolion Cymru ar gau i bawb ond plant gweithwyr allweddol a phlant bregus – ond mae Llywodraeth Prydain eisiau ailagor ysgolion Lloegr i bawb fis nesaf.
Ond rhaid bod yn ofalus, meddai Ken Hughes, a fu yn brifathro Ysgol Gynradd Eifion Wyn ym Mhorthmadog am flynyddoedd.
“Dw i ddim yn meddwl y bydd rhieni yn fodlon anfon eu plant yn ôl nes mae hi’n saff,” meddai Ken Hughes wrth golwg360.
“Hefyd, mae’n rhaid i’r staff deimlo yn saff neu fydd safon eu dysgu nhw ddim digon da – os dydyn nhw methu gwneud eu gwaith yn iawn, waeth i chi gael robots yno ddim.
“A’r peth pwysicaf wrth gwrs ydi fod y plant yn saff.”
Gor-bryder
Ers ymddeol mae Ken Hughes wedi ymddangos droeon ar wahanol raglenni ar S4C.
Ac yntau dros ei 70, mae wedi ffilmio rhaglen arbennig i’r sianel am y profiad o ymdopi ar ei ben ei hun, o’r enw Ken Hughes yn cadw ni fynd sy’n cychwyn heno ar S4C.
Ac yntau yn dioddef o or-bryder, mae yn dweud bod cyfnod y cloi mawr wedi gadael ei ôl arno.
“Do, dw i wedi bod ofn, mae yn rhaid i mi fod yn onest, ond dw i’n meddwl fod pawb wedi bod ofn,” meddai.
“Dw i wedi cael amser da wrth ffilmio, roeddwn i’n teimlo mod i mor lwcus i gael gwneud rhywbeth fel hyn, ac yn [teimlo yn] euog fod pobl yn yr un sefyllfa ar ben eu hunain.”
Er ei fod wedi bod yn brysur gyda’r ffilmio, dywed Ken Hughes ei fod wedi bod yn ffeindio amser i wneud pethau eraill hefyd.
“Mae amser yn mynd mor gyflym, dw i ddim yn brysio efo ddim byd ddim mwy, roeddwn i’n arfer bod yn ddyn prysur iawn,” meddai.
“Dw i’n licio bod allan yn yr ardd, yn enwedig a hithau wedi bod mor braf – mi fydda i’n darllen lot.
“Dw i’n byw yn y wlad, felly mae gen i ddigon o lefydd alla i fynd am dro, a fydda i ddim yn gweld llawer o neb pan fydda i’n mynd.
“Mae hi’n rhyfedd sut ma’ rywun yn addasu i bethau.”
“Last lap”
Er ei fod dros ei saith deg, dyw Ken Hughes ddim yn adnabod neb sydd wedi dal y coronafeirws na neb sydd wedi marw.
“Dw i’n ffodus iawn o ran hynny ac mae’n gysur mawr gwybod fod fy nheulu a fy ffrindiau yn saff,” meddai.
“Dw i’n meddwl am bawb ac yn teimlo bod ni ar y last lap rwan, os fydd pawb yn ddewr ac os wneith pawb fihafio.”