Mae ymchwil gafodd ei arwain gan Brifysgol Caerdydd yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd i lywio’r defnydd arloesol o uwchsain ar yr ysgyfaint er mwyn helpu i reoli cleifion coronafeirws.

Prifysgol Caerdydd yw’r gyntaf i gyhoeddi tystiolaeth a chanllawiau cynnar ar gyfer defnydd “hanfodol” o uwchsain, sydd yn cael ei ddefnyddio yn fwy cyffredin wrth ymdrin â beichiogrwydd ac anafiadau cyhyrol – a sut i’w defnyddio i asesu a monitro difrod i’r ysgyfaint.

“Wrth i gysgod y pandemig dywyllu arnom, roeddem wrthi’n casglu’r dystiolaeth a’r canllawiau cynnar ar gyfer defnyddio uwchsain ar yr ysgyfaint mewn cleifion Covid-19,” meddai’r prif awdur, Dr Mike Smith, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol.

“Roeddem am gymryd y wybodaeth oedd ar wasgar ymhlith y cymunedau ymchwil a chlinigol a’i gwneud yn fwy defnyddiol i glinigwyr – yn union ar ddechrau cromlin y pandemig.

“Ers hynny, mae uwchsain ar gyfer yr ysgyfaint wedi dod i’r amlwg fel dull hanfodol o fonitro difrod i’r ysgyfaint oherwydd Covid-19.”

Ategu cyfraniad pwysig yr ymchwil

“Mae’n offeryn anhygoel oherwydd rydym yn gallu arsylwi’r newidiadau i’r difrod yn yr ysgyfaint – a’i ddefnyddio i lywio sut rydym yn rheoli’r cleifion hyn mewn amser real,”  meddai Simon Hayward, ffisiotherapydd arbenigol o Ysbytai Addysgu Blackpool, Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG.

“Gallai fod modd ei integreiddio i mewn i lwybrau gofal ar gyfer pob claf Covid-19 sydd â difrod i’r ysgyfaint, a monitro eu hadferiad.”

Difrod i’r ysgyfaint yw un o’r problemau mwyaf difrifol i gleifion sydd â symptomau dwys y coronafeirws.

Mae penderfyniadau allweddol, fel derbyn claf i’r ysbyty, symud claf o ward i uned dibyniaeth uchel, neu a ddylid eu rhoi ar beiriant anadlu neu’u cymryd oddi ar un, yn cael eu llywio gan sganiau CT, sganiau pelydr-X o’r frest neu drwy wrando ar y frest fel arfer.

Ond er mwyn atal lledaeniad yr haint, does dim modd defnyddio’r dulliau hyn wrth fonitro Covid-19.

“Mae gan uwchsain ar yr ysgyfaint rôl bwysig yma, gan nad oes modd defnyddio’r offeryn asesu safonol – y stethosgop – gyda chleifion Covid-19 achos mae’n ffurfio cysylltiad uniongyrchol rhwng croen y claf ac wyneb y clinigwr,” meddai Dr Sue Innes, y cyd-awdur o Brifysgol Essex.

“Does dim risg o’r fath gydag uwchsain ar yr ysgyfaint, ac mae’r prosesau rheoli’r haint sydd eu hangen wrth ei defnyddio’n gymharol syml.”