Mae 1,641 o bobol bellach wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r ffigyrau diweddaraf ar gyfer yr wythnos orffennodd ar Fai 1, ond yn cynnwys marwolaethau gafodd eu cofrestru fel coronafeirws erbyn Mai 9.

Dangosa’r ffigyrau bod 281 yn fwy o farwolaethau wedi eu cofrestru yn ystod yr wythnos honno – sy’n cyfrif tuag at 30% o holl farwolaethau Cymru.

Roedd traean o farwolaethau coronafeirws Cymru mewn cartrefi gofal yn yr wythnos ddiwethaf, o’i gymharu â 24% ers dechrau’r pandemig.

Disgynnodd y nifer o farwolaethau o bob achos i 929 yng Nghymru- ond mae hyn dal yn 305 yn fwy na’r cyfartaledd wythnosol.

Yr ardaloedd gwaethaf

Caerdydd yw’r ardal yng Nghymru sydd â’r nifer mwyaf o farwolaethau coronafeirws sef 265, gyda Rhondda Cynon Taf â 201.

Tra mae’r ardaloedd gyda lleiaf o farwolaethau yw Ceredigion sydd ar 6, ag Ynys Môn sydd â 7.

Er mai 53 marwolaeth sydd wedi bod ym Mlaenau Gwent, mae 80.33 marwolaeth ymhob 100,000 person yno, sy’n uwch nag unman arall yng Nghymru.

8,312 wedi marw mewn cartrefi gofal

Cafodd 8,312 o farwolaethau coronafeirws mewn cartrefi gofal eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr hyd at Mai 1, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd 40% o holl farwolaethau coronafeirws yng Nghymru a Lloegr wedi digwydd mewn cartrefi gofal yn wythnos olaf mis Ebrill.

Disgynnodd y nifer o farwolaethau o bob achos mewn cartrefi gofal i 6,409 yn wythnos 18 (Ebrill 26 – Mai 3) ond cododd canran y marwolaethau oedd wedi ei achosi gan y coronafeirws i 37.8% o 35.3% yn wythnos 17 (Ebrill 20 – 26).