Roedd yna fethiannau yn y gofal a dderbyniodd dyn bregus yn y gogledd a dagodd i farwolaeth ar ddarn o dost, yn ôl adroddiad.

Bu’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymchwilio i ofal dyn a fu farw ym mis Mawrth 2017 – Mr N yw’r ffugenw amdano yn yr adroddiad.

Roedd gan Mr N seicosis a gafodd ei achosi gan gyffuriau, yn ogystal ag anaf i’w ymennydd, a bu’n rhaid iddo dderbyn gofal 24 awr y dydd.

Yn ôl yr Ombwdsmon, Nick Bennett, roedd yna “gamweinyddu a methiant gwasanaeth” ond nid oedd yn dweud os wnaeth y methiannau arwain at y farwolaeth.

Ymddiheuro

Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a Chartrefi Cymru (corff sydd yn helpu pobol ag anableddau dysgu) oedd yn gofalu amdano.

Ac mae pob un o’r sefydliadau wedi cydnabod casgliadau’r adroddiad ac wedi ymddiheuro i’r teulu.