Mae cannoedd wedi cymryd rhan mewn gorymdaith yn y gogledd er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr argyfwng hinsawdd.
Rhieni, Myfyrwyr a disgyblion o Ynys Môn a Bangor oedd ynghlwm â’r digwyddiad, ac mi wnaethon nhw ymlwybro o Borthaethwy i Fangor gan groesi Pont Menai.
Yn dilyn yr orymdaith cafodd sesiwn drafod ei chynnal yng nghanolfan Pontio, Bangor; a bu cynghorwyr a phrif athrawon ynghlwm â hi.
Grŵp Streic Hinsawdd Bangor wnaeth drefnu a chydlynu’r digwyddiad, ac yn ôl un o’u haelodau, nod y digwyddiad yw rhoi pwysau ar lywodraethau ac ysgolion.
“Does dim llawer o action wedi ei wneud,” meddai Jane Walsh wrth golwg360.
“Ond dyma pam rydym ni allan heddiw – i drio cael pawb i drio gwneud rhywbeth i’n helpu ni.
“Rydym ni eisiau trio gwneud yn siŵr bod y government yn gwybod am beth rydym ni eisiau. Rydym ni eisiau transport glân. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod lleisiau plant [yn cael eu clywed].
“Rydym eisiau i’r ysgolion i gyd wrando ar y plant a dechrau newid y cwricwlwm i rywbeth mae’r plant yn gallu deall hefyd.”