Fe fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwahodd pobl ifanc yng Nghymru i ddigwyddiad yng Nghaerdydd heddiw a fydd yn trafod sut mae’r Cynulliad yn ymgysylltu â nhw a sut y gall wneud mwy i’w cynnwys yn ei waith.

Cadeirydd y drafodaeth fydd Nia Medi, y darlledydd a chyflwynydd @ebion ar BBC Radio Cymru.

Partneriaid Pobl Ifanc a Gwleidyddiaeth yw’r Gymdeithas Hansard a bydd yn chwilio am atebion i gwestiynau fel, a yw gwleidyddion a phobl ifanc yn siarad at ei gilydd yn hytrach na gwrando ar ei gilydd? A yw gwleidyddion yn gwneud dim ond esgus cefnogi’r syniad o annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth? A oes angen addysg wleidyddol fwy dychmygus a difyr mewn ysgolion a cholegau?

‘Chwarae rhan lawn’

Bydd siaradwyr o’r pedair plaid yn y Cynulliad, gan gynnwys Christine Chapman AC, Eluned Parrott AC, David Melding AC, a Bethan Jenkins AC.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: “Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn teimlo eu bod yn chwarae rhan lawn yn y broses wleidyddol, a bod eu barn, eu pryderon a’u dymuniadau yn werthfawr.

“Mae’n bwysig ein bod yn gofyn i’r bobl ifanc beth yw eu dyheadau, yn hytrach na gorfodi yr hyn rydym ni’n ei feddwl sydd ei angen arnynt.

“Mae’r dirwasgiad yn golygu bod llawer o’n pobl ifanc yn wynebu dyfodol llwm iawn, gyda llai o gyfleoedd cyflogaeth.

“Y gwir yw bod hyn yn hollol annerbyniol, a rhaid i ni wneud popeth y gallwn i’w cynorthwyo a’u cefnogi.”

Gweithio gyda phobl ifainc

Cyfarwyddwr Rhaglen Addysgu’r Dinesydd y Gymdeithas Hansard yw Michael Raftery, a bydd yntau hefyd yn siarad yn y digwyddiad:

“Mae’r ddadl ynghylch pobl ifanc a gwleidyddiaeth yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau rydym yn eu trefnu gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfres o bynciau sy’n amrywio o gyfranogi i ddemocratiaeth ddigidol.

“Mae’r Gymdeithas Hansard yn gweithio gyda phobl ifanc ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig i’w cynorthwyo i gymryd rhan mewn democratiaeth a gwleidyddiaeth, felly mae’n wych i weithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol ar ddigwyddiadau fel hyn.”

Bydd cyfle, hefyd, i drafod syniadau a holi’r panel.
Gellir cael y newyddion diweddaraf yn fyw o’r digwyddiad ar Twitter, drwy ddefnyddio hashtag #PVYP11, a bydd fideos yn cael eu rhoi ar dudalen YouTube y Cynulliad Cenedlaethol.

Cynhelir y digwyddiad, Pobl Ifanc a Gwleidyddiaeth, yn y Pierhead ym Mae Caerdydd heddiw (12 Hydref) rhwng 6pm a 7.30pm.

Dylai unrhyw un sydd am ddod i’r digwyddiad gysylltu â llinell archebu’r Cynulliad drwy ffonio 0845 010 5500 neu drwy anfon e-bost at: Archebu @cymru.gov.uk