Mae’r Uchel Lys wedi gwrthod cais gan gyn-Brif Weinidog Cymru a oedd yn galw ar i’r cwest i farwolaeth y diweddar Carl Sargeant ystyried tystiolaeth bellach.

Roedd Carwyn Jones eisiau i’r cwest ystyried negeseuon testun a gafodd eu cyfnewid rhwng cyn-arweinydd Cyngor Sir Fflint, Aaron Shotton, a’i ddirprwy, Bernie Attridge.

Mae’n debyg bod y negeseuon yn cyfeirio at ymddygiad y cyn-aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru, a gafodd ei ddiswyddo yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol.

Gwrthod apêl

Dywedodd y barnwr yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd nad oedd y crwner, John Gittins, wedi gweithredu yn afresymol drwy beidio ag ystyried y negeseuon.

Fe ddisgrifiodd yr honiadau’r negeseuon yn “ddyfaliadau” ynghylch hunan-laddiad cyn-Aelod Seneddol Alyn a Glannau Dyfrdwy.

Yn ystod y gwrandawiad heddiw (dydd Iau, Mai 9), dywedodd cyfreithwyr Carwyn Jones fod methiant i ystyried y dystiolaeth yn golygu bod y cwest ddim yn “ymchwiliad llawn, teg a di-ofn”.

Ychwanegodd Cathryn McGahey, a oedd yn cynrychioli’r cyn-Brif Weinidog, fod gan Bernie Attridge “wybodaeth berthnasol” ynghylch yr hyn a achosodd Carl Sargeant i ddiweddu ei fywyd ei hun.

Y cwest

Bydd y cwest i farwolaeth Carl Sargeant yn parhau ar Orffennaf 8. Cafodd ei ohirio ar ddiwedd mis Tachwedd y llynedd ar ôl i Carwyn Jones herio dyfarniad y crwner ar gyfer gogledd Cymru ynghylch y negeseuon testun.

Cafodd y cyn-Weinidog Cymunedau, 49, ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ym mis Tachwedd 2017, ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o’r Cabinet.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe gyhoeddodd Carwyn Jones y byddai ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i’r ffordd yr oedd wedi delio â’r diswyddiad.

Ym mis Mawrth eleni, fe lwyddodd gwraig Carl Sargeant, Bernie, i ennill her yn yr Uchel Lys ynghylch cyfreithlondeb yr ymchwiliad ar ôl i farnwyr ddweud fod cysylltiad Carwyn Jones ag ef yn “anghyfreithlon”.