Garry Jenkins
Fe fydd angladd y glöwr ieuenga’ i farw yn nhrychineb pwll y Gleision yn cael ei gladdu heddi

Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yng nghapel Beulah ym mhentre’ Cwmtwrch Isaf ym mhen ucha’ Cwm Tawe.

Mae teulu Garry Jenkins, 39 oed, wedi gofyn i’r cyfryngau aros allan o’r capel yn ystod y gwasanaeth byr.

Claddu Phillip Hill

Ddoe, roedd mwy na 400 o bobol wedi casglu i dalu’r deyrnged ola’ i un arall o’r pedwar, Phillip Hill.

Fe glywodd y dorf bod y glöwr 44 oed  wedi bwriadu dal ati i weithio am 20 mlynedd arall yn y diwydiant glo.

Ond roedd ei flwyddyn ola’ wedi bod yn un anodd ac yntau’n colli ei fam a’i fab, Simon.

Fe fydd angladd yr ola’o’r glowyr, David Powell, yn digwydd ddydd Gwener nesa, dair wythnos wedi’r trychineb.