Jane Hutt
Heddiw bydd 100 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru a’r Deyrnas Unedig yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer Cynhadledd y Gweithle Stonewall Cymru.

Bydd y cynadleddwyr yn cael clywed gan bobl amlwg sy’n ymwneud yn bersonol ac yn broffesiynol â gwella’r gweithle ar gyfer pobol hoyw.

Fe fydd Gweinidog y Cabinet Jane Hutt AC, Is-gorpral James Wharton a aned yn Wrecsam, Cadeirydd Chwaraeon Cymru Laura McAllister a Julian Bucknall o Barclays yn y gynhadledd.

‘Cyfranu’n llawn’

“Mae gwahaniaethu’n annerbyniol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod holl ddinasyddion Cymru yn cael y cyfle i gyfrannu’n llawn at fywyd economaidd yn ogystal â bywyd cymdeithasol Cymru,” meddai’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt.

“Ein gweledigaeth yw gweithle amrywiol a chynhwysol, lle mae’r unigolyn yn cael ei werthfawrogi, ei ddatblygu a’i alluogi i wneud gwahaniaeth i ddinasyddion Cymru. Byddwn yn parhau i anelu at gydraddoldeb i bobol Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol a sicrhau bod pobol yn teimlo’n gyfforddus ac yn gallu bod yn nhw eu hunain go iawn yn eu man gweithio,” meddai.

Bydd cyfres o weithdai arferion gorau gan aelodau o’r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn y digwyddiad.  Mae’r rhwydwaith hwn sy’n tyfu o dros 600 o gyflogwyr yn dod â chyflogwyr blaenllaw ynghyd i hyrwyddo amrywiaeth yn y gweithle.

‘Hanfodol i’w llwyddiant’

“Cyflogwyr yw’r rhain sy’n deall bod ‘pobl yn cyflawni’n well pan maent yn cael bod yn nhw eu hunain’.  Maent wedi cydnabod yn barod bod profiad gweithwyr hoyw yn hanfodol i’w llwyddiant fel busnesau a darparwyr gwasanaethau,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru. “Yr hyn sy’n eich taro fwyaf yw’r amrywiaeth o gyflogwyr a fydd yn cael eu cynrychioli yno, o’r lluoedd arfog, i sefydliadau ariannol mawr, i awdurdodau lleol.”

Roedd naw sefydliad o Gymru yn rhestr 100 Cyflogwyr Gorau y mudiad hawliau hoyw, Stonewall, ar gyfer 2011.  Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yng Nghymru hefyd yn annog cyflogwyr i fynd i’r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cydraddoldeb mewn ffyrdd mwy clir a phenodol.