Mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan eu bwriad i greu ap Cymraeg yn y dyfodol.

Roedden nhw’n ymateb i gwyn gan Aled Thomas o Benarth, gan ymddiheuro “am unrhyw siom” ac egluro “ein bod ar hyn o bryd yn gweithio gyda’n partneriaid i gyflwyno ap Cymraeg lle bo modd”.

Yn ôl y cwmni sy’n gyfrifol am drenau Cymru, maen nhw “wedi ymrymo i ddarparu gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg”.

Gwasanaethau sydd ar gael

Maen nhw’n nodi eu bod nhw eisoes yn cynnig y gwasanaethau canlynol yn y Gymraeg:

  • Wrth ymateb i lythyrau, e-byst, ffurflenni sylwadau a hawlio iawndal (ac eithrio atebion drwy sianeli gwerthu trydydd parti)
  • Wrth ateb galwadau ffôn i’r adran Cysylltiadau Cwsmeriaid
  • Gwybodaeth amserlen – drwy Wasanaeth Ymholiadau Cymraeg National Rail Enquiries (NRE)
  • Arwyddion mewn gorsafoedd – bydd yr holl arwyddion mewn gorsafoedd yng Nghymru’n ddwyieithog erbyn 1 Ebrill 2023
  • Deunydd hyrwyddo, gan gynnwys amserlenni poced a llawlyfrau gwasanaeth
  • Cyhoeddiadau i deithwyr mewn gorsafoedd ac ar drenau, gan gynnwys cyhoeddiadau ad-hoc lle bo hynny’n ymarferol
  • Gwefan TfW (ac eithrio rhai bwletinau gwybodaeth byw a thrwy drydydd partïon)
  • Trydar ac wrth ymateb i negeseuon trydar ar Trydar TfW
  • Staff sy’n cael cyswllt wyneb yn wyneb â chwsmeriaid wrth ddelio ag ymholiadau yn Gymraeg, lle bo hynny’n bosib. Gall pobl adnabod y staff yma oddi wrth gortyn Cymraeg oren o gwmpas y gwddf. Bydd yn cyflwyno
    hyfforddiant Iaith Gymraeg fydd ar gael i’r holl staff gwasanaethau yn ystod blwyddyn gyntaf y contract.