Mae dyn wedi’i garcharu ar ôl pledio’n euog i yrru’n beryglus a pheidio â stopio wedi damwain rhwng Caernarfon a Pwllheli.

Cafodd James Leach, 29 oed, o Oak Road, Chelford, Swydd Gaer ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddoe i 16 mis o garchar yn dilyn digwyddiad ar yr A499 ddechrau fis Hydref.

Yn fuan ar ôl 5am ddydd Gwener, 5 Hydref, digwyddodd gwrthdrawiad gerllaw pentref Llandwrog rhwng lori fechan Ford Ranger oren – a oedd yn cael ei gyrru gan Leach, a Volkswagen Caddy.

Dioddefodd gyrrwr y Caddy, dyn lleol 60 oed, anafiadau difrifol ac aed ag ef i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn ambiwlans.

Arestio

Roedd James Leach wedi diflannu cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd, ond yn dilyn ymholiadau helaeth gan yr heddlu, cafodd ei arestio yn ddiweddarach mewn parc carafanau ar gyrion Pwllheli.

Dywedodd y Rhingyll Raymond Williams o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Doedd gan Leach ddim ystyriaeth i neb arall wrth iddo yrru’n beryglus y bore hwnnw. Yn anffodus arweiniodd at ddyn yn cael ei anafu’n ddifrifol. Dim ond trwy lwc nad oedd yn wrthdrawiad traffig ffordd angheuol.

“Dw i’n gobeithio fod dedfryd y llys yn anfon neges glir iawn y bydd unrhyw un a gaiff eu heuogfarnu o droseddau o’r fath yn wynebu’r canlyniadau.”