Fe fydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cynnal cynhadledd arbennig yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau nos Wener (6.30, Hydref 12) i drafod pa gymorth all capeli ei roi i ffermwyr ar drothwy Brexit.
Maen nhw’n cyhoeddi strategaeth newydd i helpu amaethwyr a phobol eraill sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru i allu ymdopi â’r heriau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yng nghymunedau Cymraeg eu hiaith yng nghefn gwlad Cymru y mae rhan fwyaf o’r 400 o aelodau’r Undeb yn byw, ac mae tystiolaeth fod pwysau cynyddol yn peryglu iechyd ffermwyr mewn cymunedau o’r fath.
Mewn cyfarfod blaenorol yng Ngregynog ddydd Iau, penderfynodd yr Undeb annog gweinidogion i adnabod arwyddion o bryder difrifol ymhlith aelodau yng nghefn gwlad, a gwybod sut i ymateb mewn modd ymarferol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parchedig Dyfrig Rees, “Yn dilyn gaeaf a gwanwyn caled, cafwyd haf eithriadol o sych, gyda phrinder porthiant ar gyfer y gaeaf.
“Ar ben hyn oll, mae ansicrwydd mawr am beth fydd yn digwydd i allforion cig a’r system cymorthdaliadau yn sgil Brexit.”