Mae adar ysglyfaethus yn dal i fod mewn perygl yng Nghymru, yn ôl y Gymdeithas Gwarchod Adar (RSPB).

Mae adroddiad gan Birdcrime yn nodi bod tri o’r 68 achos o droseddau anghyfreithlon yn erbyn adar ysglyfaethus yn y Deyrnas Unedig yn ystod y llynedd wedi digwydd yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod Powys yn ail uchaf ymysg y siroedd yn y Deyrnas Unedig am erlid adar ysglyfaethus rhwng 2012 a 2017.

Yn ôl Bob Elliot, sy’n Bennaeth Ymchwilio’r RSPB, mae erlid adar fel y barcud a’r bwncath yn “broblem eang”, gyda’r ffigurau hyn ond yn “crafu’r wyneb” o ran y sefyllfa go iawn.

“Dim ond crafu’r wyneb”

“Bob wythnos mae tîm Ymchwilio’r RSPB yn cael adroddiadau am aderyn ysglyfaethus arall yn cael ei saethu, ei ddal mewn trap neu ei wenwyno,” meddai llefarydd.

“Ond am bob adroddiad rydyn ni’n ei gael, mae astudiaethau gwyddonol yn awgrymu bod llawer mwy yn mynd eb eu canfod neu heb eu hadrodd.

“Felly dim ond crafu’r wyneb mae’r ffigurau hyn o ran gwir hyd a lled erlid adar ysglyfaethus yn y Deyrnas Unedig.”

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem, mae’r RSPB wedi lansio Mapiau Adar Ysglyfaethus, dau fap rhyngweithiol a fydd yn galluogi pobol i weld ble mae’r troseddau’n digwydd.

Y ffigyrau

O’r 68 achos sydd wedi’u cadarnhau yng ngwledydd Prydain y llynedd, roedd:

  • 48 achos o saethu;
  • naw achos o wenwyno;
  • tri achos o ddefnyddio trapiau;
  • pedwar achos o ddifrodi nythod;
  • a phedwar achos arall o erlid adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon.

Yr adar a ddioddefodd fwyaf yng Nghymru, meddai’r RSPB, oedd yr hebog tramor, y barcud coch a’r bwncath.

Ym Mhowys, cafodd 25 achos o erlid adar ysglyfaethus eu cadarnhau rhwng 2012 a 2017, sy’n llawer uwch na’r sir uchaf nesaf yng Nghymru, sef Conwy, a oedd â phedwar achos.