Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r ddynes 86 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ym Mrynmawr ddydd Sul diwetha’ (Mehefin 24).

Mi gafodd yr heddlu eu galw am tua 2:30yp i Sgwâr y Farchnad, Brynmawr, yn dilyn adroddiadau fod cerbyd wedi taro cerddwr.

Bu’r farw’r cerddwr, sef Sheila Skuse o Frynmawr, o’i hanafiadau.

Mi gafodd dyn 29 oed o Frynmawr ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ond mae bellach wedi’i ryddhau.

“Menyw gynnes a chroesawgar”

 Wrth dalu teyrnged i Sheila Skuse, dywed ei theulu ei bod yn “fenyw gynnes a chroesawgar gyda gwên barod i bawb”.

Mae’r datganiad yn nodi bod y ddynes 86 oed yn cael ei chofio gan fwyaf am redeg siop ddiodydd askuse’s yn Blaenafon, lle bu’n byw cyn symud i’w thref enedigol, Brynmawr.

“Cafodd Sheila fywyd hir, llawn, ond cafodd ei dwyn oddi wrthym mewn modd drasig,” meddai’r datganiad.

“Roedd hi’n annwyl iawn gan bawb, ac mae ei hymadawiad wedi gadael bwlch anferth yn ein bywydau.”

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod yr ymchwiliad yn parhau.