Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cymru wedi cadarnhau y bydd yn ymchwilio i gŵyn yn erbyn Arweinydd Cyngor Sir y Fflint.
Dyw natur y gŵyn yn erbyn Aaron Shotton ddim wedi’i ddatgelu, ond yr honiad yw bod y Cynghorydd Llafur wedi torri côd ymddygiad y Cyngor.
Mae golwg360 wedi gofyn i Aaron Shotton am ymateb.
Ymchwilio
“Gallaf gadarnhau bod yr ombwdsmon wedi derbyn cwyn bod Aaron Shotton o Gyngor Sir y Fflint, wedi torri côd ymddygiad yr awdurdod lleol,” meddai llefarydd ar ran yr Ombwdsmon, Nick Bennett.
“O ystyried y gŵyn, mae’r ombwdsmon wedi penderfynu y bydd yn ymchwilio i’r mater.”