Mae Candelas, Geraint Lovgreen ac Al Lewis ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio yng Ngŵyl Fach y Fro 2018.
Mae disgwyl llu o fandiau a disgyblion lleol i berfformio ar lwyfan yr ŵyl ar Ynys y Barri ar Fehefin 16.
Y DJs Bethan Elfyn a Gareth Potter bydd yn cyflwyno’r diwrnod, ac yn ogystal â cherddoriaeth mi fydd amrywiaeth o weithgareddau eraill.
Cyngor Bro Morgannwg, Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa’r Loteri Fawr, sydd yn cefnogi’r diwrnod.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae pobol sydd ddim yn medru’r Gymraeg yn cael eu hannog i fynd yno i brofi’r iaith a’r diwylliant.
Pwy fydd yn perfformio?
- Candelas
- Geraint Lovgreen a’r Enw Da
- Alys Williams a’r Band
- Al Lewis
- Mabli Tudur a’r Band
- Fleur de Lys