Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi talu teyrnged i “urddas a nerth” Aelod Seneddol o Gymru.
Daeth ei neges wrth gyhoeddi sefydlu cronfa yn Lloegr i dalu am gladdu ac amlosgi plant yn dilyn ymgyrch hir gan Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris.
Mae’r gronfa ar gael yng Nghymru ers mis Tachwedd y llynedd.
Yn sgil y cynllun, fydd rhieni ddim yn gorfod talu am gladdu neu amlosgi eu plant, gydag arian Llywodraeth Prydain yn cael ei ddefnyddio i dalu’r gost.
Mae 4,350 o blant yn marw yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn, a rhieni’n wynebu costau o filoedd o bunnoedd i’w claddu neu eu hamlosgi.
Mae costau’n amrywio yn sylweddol o un ardal i’r llall, a rhai cynghorau’n diddymu costau’n llwyr. Ond does dim cysondeb.
Mae’r ymgyrch yn agos at galon Carolyn Harris, a gollodd ei mab Martin pan oedd e’n wyth oed.
Colled
Wrth gyhoeddi’r gronfa, dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May: “Ni ddylai’r un rhiant orfod goddef colli plentyn, sy’n annioddefol – colled na fydd amser fyth yn ei thrwsio.
“Ond ym mhoen y golled ar y pryd, ni all fod yn iawn fod rhieni sy’n galaru yn gorfod poeni am sut i dalu costau angladd plentyn yr oedden nhw wedi gobeithio ei weld yn tyfu’n oedolyn.
“Dw i wedi cael fy nghyffwrdd gan urddas a nerth ymgyrchwyr fel Carolyn Harris, a gollodd ei mab ei hun, Martin pan oedd e’n ddim ond wyth oed.
“Mae Carolyn wedi dadlau’n angerddol o blaid Cronfa Angladdau Plant i arbed y fwrn i deuluoedd o dalu costau angladdau.
“Yn eiliadau duaf bywyd unrhyw riant, prin yw’r goleuni – ond gall fod cefnogaeth.”