Mae llefarydd y Blaid Lafur ar Ogledd Iwerddon, Owen Smith wedi cael ei ddiswyddo o’r cabinet cysgodol gan yr arweinydd Jeremy Corbyn ar ôl bod yn galw am refferendwm arall ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r galwadau gan Aelod Seneddol Pontypridd yn groes i bolisi’r blaid o barchu canlyniad y refferendwm, wrth i’r trafodaethau tros Brexit barhau.

Ond mae’n mynnu y bydd yn parhau i leisio barn am Brexit, gan ddweud bod nifer o fewn y Blaid Lafur yn ei gefnogi.

Wrth egluro’r penderfyniad, dywedodd llefarydd materion cartref Llafur, Diane Abbott na all Owen Smith barhau i eistedd ar y meinciau blaen tra ei fod yn gwrthwynebu polisi’r blaid.

Fe fydd Aelod Seneddol Rochdale, Tony Lloyd yn cymryd ei le.

Erthygl yn y Guardian

Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn yn anfodlon ynghylch sylwadau Owen Smith mewn erthygl yn y Guardian, lle mae’n galw am gael aros yn aelod o’r undeb dollau a’r farchnad sengl.

Yn yr erthygl, fe ddywedodd: “Os ydym yn mynnu gadael yr Undeb Ewropeaidd, yna dim ond un ffordd realistig sydd o anrhydeddu ein rhwymedigaethau yn sgil cytundeb Gwener y Groglith, sef aros yn aelod o’r undeb dollau a’r farchnad sengl.

“Dw i’n falch bod fy mhlaid wedi cymryd cam mawr yn y cyfeiriad hwn drwy gefnogi aelodaeth barhaus o’r undeb dollau, ond mae angen i ni fynd ymhellach.”

Ond fe ddywedodd hefyd fod “rhaid i Lafur wneud mwy na chefnogi Brexit meddal neu sicrhau ffin feddal yn Iwerddon”.

“O ystyried ei bod yn gynyddol amlwg nad yw’r addewidion a gafodd eu gwneud gan y Brexitwyr i’r pleidleiswyr – yn enwedig, ond nid yn unig yr addewid o £350 miliwn ychwanegol yr wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd, yn mynd i gael eu hanrhydeddu, mae gennym yr hawl i barhau i ofyn ai Brexit yw’r dewis cywir i’r wlad o hyd.

“A gofyn hefyd fod gan y wlad bleidlais ar dderbyn yr amodau neu beidio, a gwir gost y dewis hwnnw unwaith eu bod nhw’n eglur.”