O holl bobloedd gwledydd Prydain, mae’r Cymry ymhlith y mwyaf bodlon â’u bywydau, yn ôl ymchwil newydd.
Dros Brydain oll, mae’n debyg bod dau o bob tri o’r boblogaeth yn teimlo nad ydyn nhw’n byw bywyd llawn, gyda dim ond 21% o bobol yn yr Alban yn fodlon â’u bywydau.
Ond yng Nghymru mae’r ffigwr tipyn yn uwch gyda 36% yn dweud eu bod yn byw bywydau llawn – pobol Llundain (45%) a de ddwyrain Lloegr (40%) sydd fwyaf bodlon.
Mae gwaith ymchwil gan gmwni bragu yr Old Speckled Hen hefyd yn dangos mai’r Cymry yw’r bobol fwyaf anturus ym Mhrydain gyda 91% yn dweud eu bod yn trio profiadau newydd.
“Amser rhydd”
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod y bobol fwyaf hapus gyda llai o amser sbâr, tra bod y lleiaf hapus – Swydd Efrog er enghraifft – gyda mwy o amser i hamddena.
“Mae pobol yn credu bod angen amser sbâr arnoch chi er mwyn dilyn eich breuddwydion,” meddai Cyfarwyddwr Marchnata’r Old Speckled Hen, Dom South.
“Ond, mewn gwirionedd, pobol sydd â llai o amser sbâr sydd yn mynd ar ôl bywyd cyfoethocach. Mae’r ymchwil yn dangos mai oll sydd angen gwneud ydy defnyddio eich amser yn gall.”