Fe gafodd pysgotwr ifanc ei achub oddi ar arfordir Ceredigion ddydd Mawrth (Chwefror 27), ar ôl iddo fynd i drafferthion yn y tywydd oer.

Yn ôl Bad Achub Ceinewydd, fe gawson nhw eu galw am naw y bore, ar ôl i ddyn 23 oed a oedd ar gwch pysgota tua wyth milltir allan o Geinewydd, ddioddef pwl drwg o asthma o ganlyniad i’r tywydd oer eithriadol.

Fe ddychwelodd y bad gyda’r claf i’r orsaf erbyn 11y bore, lle cafodd ei gadw’n gynnes yn yr orsaf bad achub, cyn cael ei drosglwyddo gan ambiwlans i Feddygfa Cei Newydd i dderbyn triniaeth bellach.

Yn ôl un o griw’r bad achub, doedd dim modd iddyn nhw ddefnyddio hofrennydd oherwydd y tywydd oer a chyflwr y claf.

“Roedd yn ddiwrnod hynod oer,” meddai’r achubwr. “Nid yn aml y mae yn rhaid i ni roi halen ar y llithrfa i’w atal rhag rhewi.”

Gwrthwynebu cynllun y RNLI

 Yn sgil y digwyddiad hwn, mae rhai wedi mynegi pryderon pellach ynglŷn â chynlluniau’r RNLI i gael gwared ar y bad achub pob-tywydd o orsaf bad achub Cei Newydd yn 2020.

Bydd y cam hwn yn golygu bod yna fwlch o 63 milltir – neu 80 milltir ar hyd yr arfordir – rhwng y gorsafoedd bad achub pob-tywydd rhwng Abergwaun a’r Bermo.

“Mae cynllun yr RNLI i adael Ceredigion heb fad achub pob-tywydd yn golygu cymryd gambl gyda bywydau ein pysgotwyr a’n morwyr,” meddai Huw Williams, llefarydd ar ran Ymgyrch Bad Achub Ceredigion.