Bydd goleuadau traffig dros dro yn weithredol ar ddarn o’r A487 uwchben Machynlleth am gyfnod o dri mis, wrth i brosiect torri coed fwrw yn ei blaen.
Mae’r contractwyr Dawnus wedi bod yn cynnal gwaith ar safle Bont Evans, Ceinws, ers mis Tachwedd 2017 ac mae disgwyl i’r gwaith gymryd tua 18 mis i’w gwblhau.
Mae’r goleuadau yn cael eu gosod fel bod y contractwyr yn medru dechrau ar y gwaith o godi ffens 900 medr ar hyd ymyl waelod y coetir.
Nod y gweithwyr yw cael gwared ar 22 hectar o goed – ardal oddeutu’r un maint â 30 o gaeau pêl-droed – a ni fydd modd gwneud hyn tan fod y ffens wedi’i godi.
Bydd y contractwyr – sy’n gweithio ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru – yn symud y goleuadau traffig dros y penwythnos er mwyn lleihau problemau i’r gymuned a defnyddwyr eraill y ffordd.