Yr angen am drethi tecach yn lle torri ar wario cyhoeddus yn barhaus fydd un o negeseuon allweddol pregeth Nadolig Archesgob newydd Cymru.

Yn ei bregeth gyntaf fel Archesgob, bydd y Parchedicaf John Davies yn tynnu sylw at ganlyniadau rhai o bolisïau llymder llywodraeth Prydain:

“Mae digartrefedd yn rhemp ar strydoedd llawer o’n dinasoedd; mae banciau bwyd yn aml yn ei chael hi’n anodd darparu; mae Credyd Cynhwysol wedi gadael llawer o deuluoedd gyda llai o incwm yn rhy hir,” meddai.

Dywed mai’r ffyrdd i ddatrys pethau yw cariad ymroddedig sy’n arwain at weithredu, a fydd yn ei dro yn costio arian.

“Diwedd y gân yw’r geiniog,” meddai. “Os ydyn ni’n barod nid yn unig i glywed y neges ond hefyd i weithredu arni, bydd hynny’n costio. Bydd yn costio trefn drethu decach a chyllido realistig; bydd yn golygu talu am yr hyn ydyn ni eisiau i ni’n hunain ac i eraill, a pheidio â smalio y bydd torri ar ôl torri ar ôl torri yn datrys pethau.

“Dyw hi ddim yn ymddangos fod y llawdriniaeth honno’n cael yr effeithiau llesol y dylai fod yn eu cael.”

Fe fydd John Davies yn traddodi ei bregeth yng Nghadeirlan Aberhonddu am 11 o’r gloch fore dydd Nadolig.