Mae dyn 38 oed a syrthiodd allan o fan gerllaw Merthyr ddoe wedi marw.

Mae Heddlu De Cymru’n dal i holi gyrrwr y fan ac yn apelio am dystion i’r digwyddiad.

Mae’n ymddangos fod y dyn 38 oed wedi syrthio allan trwy ddrysau cefn y fan wrth iddi yrru o amgylch cylchdro rhwng Pentrebach a Throedyrhiw.

Roedd y fan Iveco wen yn teithio o gyfeiriad Troedyrhiw ger ffatri Lindt ychydig cyn un o’r gloch brynhawn ddoe.

Aed â’r dyn a anafwyd i Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd, lle bu farw heddiw. Mae ei berthnasau agosaf yn cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teuluol yr Heddlu.