Swyddfa y Cynulliad yn Llandudno
Mae dau o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio’r weinyddiaeth newydd i beidio symud swyddi o gyrion y wlad i Gaerdydd.

Daw hyn wedi i undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol PCS rybuddio ddoe eu bod nhw’n ystyried streicio dros gynlluniau i gau swyddfeydd y llywodraeth yn y Drenewydd, Llandrindod a Chaernarfon.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb wrth Golwg 360 y byddai cau’r swyddfeydd yn gam yn ôl ac y gallai arwain at anghydfod diwydiannol.

Galwodd y cyn-weinidog Treftadaeth ac AC Arfon, Alun Ffred Jones, am symud rhagor o swyddi o Gaerdydd, nid llai.

“Yr hyn fynnwn ni weld yw mwy o ddatganoli swyddi llywodraeth Cymru – gan barhau â’r agenda yr oeddem ni’n ei dilyn mewn llywodraeth,” meddai.

Ychwanegodd fod gan y sector cyhoeddus rôl “bwysig o ran sbarduno economi Cymru” a dyw hi “ond yn iawn i lywodraeth Cymru ofalu bod y manteision economaidd hynny’n cael eu taenu dros Gymru gyfan”.

“Rhaid i’r llywodraeth roi sicrwydd na fyddan nhw’n canoli swyddfeydd rhanbarthol a bod y swyddfeydd llai yn ddiogel yn y tymor hir,”  meddai.

Dywedodd fod llefydd gwag yn rhai o’r swyddfeydd mawr rhanbarthol, gan gynnwys swyddfa Cyffordd Llandudno, ac y dylid symud swyddi yno o Gaerdydd.

“Rydym ni eisiau gweld y lle sydd ar gael yn y swyddfeydd mwy, megis yr un yng Nghyffordd Llandudno, yn cael ei lenwi trwy symud swyddi, ac adrannau cyfain os oes angen, allan o Gaerdydd,” meddai.

Swyddi

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflogi bron i 6000 o bobl ledled Cymru. Mae tua 98 o weithwyr yn swyddfa Caernarfon, 135 yn Llandrindod a thua 83 yn Y Drenewydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod nhw’n “ymroddedig i ddarparu presenoldeb gwasgaredig ar draws Cymru, ond ar hyn o bryd yn ail-ystyried ein hanghenion lleoliadol”.

Ddoe dywedodd y PCS nad ydyn nhw’n anghytuno â’r “egwyddor” o gau swyddfeydd mewn llefydd fel Caerdydd sydd ag o leiaf dwsin o swyddfeydd.

Ond roedden nhw’n pryderu am effeithiau cau swyddfeydd mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, ac effaith hynny ar yr economi lleol a hefyd ar yr iaith.

Dywedodd y cyn-weinidog materion gwledig Elin Jones, AC Ceredigion, fod gan lywodraeth Cymru “rôl hanfodol i’w chwarae fel sbardun economaidd mewn llawer rhan o Gymru.”

“Mae datganoli swyddi yn allweddol, a dylai swyddi yn adeiladau’r llywodraeth gael eu gwasgaru allan o’r canol, yn hytrach na chael eu canoli yn rhanbarthol – sydd yn dwyn swyddi ymaith o drefi llai,” meddai Elin Jones.