Mae’r heddlu wedi arestio tri dyn yn dilyn lladrad mewn swyddfa bost yng Nghastell-nedd.

Cafodd arian ei ddwyn o Swyddfa Bost Cilfrew am 9.10am ddydd Gwener.

Arestiwyd tri dyn, dau ohonynt yn 20 oed a’r trydydd yn 18 oed yn oriau man y bore heddiw.

Maen nhw yn y ddalfa yn Swyddfa Bost Castell-nedd wrth i’r heddlu fwrw ymlaen â’r ymchwiliad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.