Carlk Sargeant - dyletswydd
Mae cyn blisman profiadol wedi cael ei benodi i geisio atal y fasnach mewn pobol yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad, dyma’r swydd gynta’ o’i bath yng ngwledydd Prydain.

Fe fydd y cyn Brif Uwcharolygydd Robert Tooby yn dechrau ar ei waith yn Gydlynydd Atal y Fasnach mewn Pobol ar 4 Ebrill.

Rhan o’i waith fydd ceisio casglu tystiolaeth o union faint y broblem yng Nghymru. Roedd adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru’n dweud bod o leia’ 32 o blant wedi cael eu gwerthu i mewn i’r wlad yn ddiweddar.

Fe fydd hefyd yn gweithio gydag asiantaethau eraill i roi cefnogaeth i’r rhai sy’n cael eu prynu a’u gwerthu ac i geisio dod â’r masnachwyr o flaen eu gwell.

‘Caethwasiaeth’

“Masnachu pobol, yn ei holl ffurfiau, yw’r math gwaetha’ o gaethwasiaeth ac o gymryd mantais o fodau dynol,” meddai Robert Tooby a dreuliodd fwy na 31 mlynedd gyda’r heddlu, gan orffen yn un o uwch swyddogion Heddlu De Cymru.

“Gan mai’r Deyrnas Unedig yw un o’r prif wledydd Ewropeaidd sy’n cael ei thargedu, mae’n gysur bod Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod difrifoldeb y broblem. Cydweithio fydd yr unig ffordd i ymladd y broblem yma.”

‘Gwrthun’ – sylwadau’r Llywodraeth

Yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant, fe fyddai cael rhagor o wybodaeth am y fasnach yn help i benderfynu ar y dulliau gorau i’w hymladd.

“Er nad oes neb yn gwybod eto beth yw gwir hyd a led y broblem fasnachu, ryden ni’n gwybod am achosion lle mae dioddefwyr wedi cael eu cludo i Gymru a’i gorfodi i wneud pethau ofnadwy, yn erbyn eu hewyllys,” meddai.

“Mae’r ecsploetio dynol yma’n wrthun ac mae gan Lywodraeth y Cynulliad ddyletswydd i helpu dioddefwyr a chefnogi’r awdurdodau i erlyn y rhai sy’n gyfrifol.”