Y Cynulliad wedi cefnogi'r strategaeth
Mae ymgynghori ynglŷn â strategaeth iaith y Llywodraeth yn dangos bod yna “gefnogaeth eang” i’r Gymraeg, meddai’r Gweinidog Treftadaeth.
Roedd mwy na 130 o gyrff, mudiadau ac unigolion wedi ymateb i ddrafft o’r strategaeth sy’n anelu at gynyddu’r defnydd o’r iaith mewn cymunedau ac mewn meysydd fel busnes.
Ond roedd y Gweinidog, Alun Ffred Jones, yn cydnabod bod “nifer o agweddau” y bydd rhaid i’r Llywodraeth eu trafod gyda chyrff eraill.
Mae camre gweithredu’r misoedd nesa’n cynnwys sefydlu cynllun peilot i greu Ardal Hybu’r Gymraeg yng nghymoedd Aman a Thawe a gweithio ar gynlluniau i sefydlu Trefi a Dinasoedd Dwyieithog mewn pedair ardal yng Nghymru.
“Dw i am weld rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg; cynnydd yn hyder pobol yn eu defnydd a’u rhuglder yn yr iaith, mwy o ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg fel sgil a’r Gymraeg yn cryfhau o fewn ein cymunedau,” meddai’r Gweinidog.