Angela Burns
Mae ystadegau newydd yn awgrymu bod pobol o Gymru yn llai bodlon gyda’u bywydau, yn ysu am bwrpas, yn llai hapus ac yn gofidio’n fwy na phobol gweddill Prydain.

Ac yn ôl y Torïaid mae’r ffigyrau’n dangos “bod Cymru yn cael ei heffeithio’n fwy gan broblemau iechyd meddwl na gweddill y Deyrnas Unedig”.

Yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau, y Cymry sydd yn gofidio fwyaf o holl bobloedd Prydain – ac mae lefelau gorbryder yn cynyddu’n flynyddol.

Mewn pedwar maes gwahanol mae lefelau hapusrwydd awdurdodau Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a Chaerffili yn is na’r cyfartaledd Prydeinig.

Marciau Hapusrwydd

  • Boddhad â bywyd: Cymru 7.65 / Prydain 7.70
  • Pwrpas mewn bywyd: Cymru 7.83 / Prydain 7.86
  • Hapusrwydd: Cymru 7.48 / Prydain 7.51
  • Gofid: Cymru 2.96 / Prydain 2.90

 “Codi braw”

“Mae’r ffigyrau yma wir yn codi braw, ac yn awgrymu bod Cymru yn cael ei heffeithio’n fwy gan broblemau iechyd meddwl na gweddill y Deyrnas Unedig,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Angela Burns.

“Byddaf yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Iechyd y Cabinet am ei ymateb i’r ystadegau yma, gan ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â’r broblem yma.”

“Camarweiniol”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gwella iechyd a lles pobl Cymru yn flaenoriaeth allweddol i ni. Yn ddiweddar cyhoeddwyd ein hamcanion llesiant sy’n cynnwys ffocws ar atal iechyd gwael a gwella cadernid emosiynol.

“Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol eu hunain yn sôn taw’r gymhariaeth fwyaf priodol ydy cynnydd dros amser o fewn ardal a bod cymharu awdurdodau lleol yn ôl sgôr rhifol yn gamarweiniol.”