Golygfa o arfordir Pen Llyn (Llun: golwg360)
Tŷ ar ei ben ei hun yn y wlad, gyda phedair ystafell wely, ac yn werth tua £403,866 fyddai’r ‘cartref oes’ delfrydol i bobol yng Nghymru, yn ôl ymchwil gan gwmni cynhyrchu ffenestri a drysau.
Mae’r ymchwil gan gwmni Origin wedi holi 2,000 o berchnogion tai yng ngwledydd Prydain yn ystod mis Mehefin 2017.
Mae’r arolwg yn dod i’r casgliad bod hanner y rheiny yn dymuno byw ger y môr neu yng nghefn gwlad gyda phrisiau ‘cartrefi oes’ yn Eryri yn costio o gwmpas £156,000 o gymharu â £200,000 yng Nghaerdydd a £399,995 yn Llundain.
‘Cartref oes’
Esboniodd Ben Brocklesby, Cyfarwyddwr Origin, eu bod am archwilio pa mor bwysig ydi cael ‘cartref oes’, gan ddweud fod pobol yng ngwledydd Prydain yn dueddol o fyw mewn saith ty gwahanol yn ystod eu bywyd.
Wrth ymateb i’r hyn sy’n gwneud cartref delfrydol, rhai o’r pethau ddaeth i’r amlwg oedd cael Swyddfa Bost a Siop o fewn tair milltir, lle i barcio’r car, ystafell chwarae, cegin fawr yn ogystal â chysylltiadau da i deithio i’r gwaith.
Datgelodd yr arolwg hefyd mai 53 yw’r oedran tebygol y bydd pobol yn yn berchen ar eu ‘cartrefi delfrydol’.