Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i gerrig gael eu taflu at gerbydau ar yr A55 yn Sir Conwy.

Yn y digwyddiad cyntaf ar nos Wener, 4 Awst am 9.42yh cafodd carreg ei thaflu o bont wrth gylchdro Cyffordd Llandudno gan achosi difrod i ffenestr lori oedd yn gyrru heibio.

Yn yr ail ddigwyddiad ar bnawn dydd Sadwrn, 5 Awst credir bod teithwyr mewn car Seat Leon lliw gwyn wedi taflu cerrig at gar Fiat 500 oedd yn gyrru heibio ger Cyffordd 17 tuag at Gonwy.

Dywedodd yr Arolygydd Kelly Isaacs: “Yn ffodus ni chafodd unrhyw un eu hanafu ond fe allai canlyniad y math o ymddygiad troseddol yma fod yn angheuol.”

Ychwanegodd y bydd rhagor o swyddogion ar batrôl yn yr ardal ac mae’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiadau i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r rhifau cyfeirnod RC17117941 a RC17118529.