Mae’r heddlu’n ymchwilio i adroddiadau fod “teclynnau amheus” wedi’u gosod ar beiriannau twll yn y wal yn Aberystwyth yr wythnos diwethaf.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi cael galwad ddydd Iau diwethaf (Gorffennaf 13) gydag adroddiadau fod camera a dyfais darllen cerdyn wedi’u gosod ar ddau beiriant twll yn y wal banc y TSB.

“Mae’r dyfeisiau wedi’u meddiannu ar gyfer archwiliad fforensig,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Mae’r swyddogion hefyd wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i bryderon am beiriant twll yn y wal arall ar yr un safle.

‘Gwyliadwrus’

Mae’r heddlu’n annog pobol i fod yn wyliadwrus wrth ddefnyddio’r peiriannau gan ddweud – “os ydych yn gweld unrhyw beth amheus peidiwch â symud unrhyw ddyfais amheus na wynebu unrhyw dwyllwyr ond yn hytrach ewch at yr heddlu.”

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â’r ymchwiliad i gysylltu â’r heddlu ar 101.