Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw, wrth iddo drafod gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl bydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn holi’r Prif Weinidog am baratoadau Cymru ar gyfer Brexit ac am berthynas y genedl â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dyma sesiwn graffu gyntaf y Pwyllgor â’r Prif Weinidog ers dechrau trafodaethau Erthygl 50 ac ers yr etholiad cyffredinol.

Daw’r cyfarfod yn sgil ymweliadau’r pwyllgor ag Iwerddon lle wnaeth aelodau gyfarfod â gweinidogion llywodraethol, a Brwsel lle wnaethon nhw gyfarfod â Phrif Negodwr Brexit  Senedd Ewrop, Guy Verhofstadt.