Tonia Antoniazzi AS
Mae Aelod Seneddol Llafur newydd o Gymru wedi canmol ei theulu am chwarae rôl wrth gyflwyno “diwylliant caffis” a hufen iâ i dde Cymru.

Fe gipiodd Tonia Antoniazzi etholaeth Gŵyr gan y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol brys Mehefin 8, ac yn ystod ei haraith gyntaf yn San Steffan fe soniodd am gysylltiad ei theulu Eidalaidd â’r ardal.

“Mae fy llinach Eidalaidd wedi ymblethu’n rhan o etholaeth Gŵyr,” meddai Tonia Antoniazzi.

“Teuluoedd o Bardi ddaeth â diwylliant caffis i dde Cymru, felly gallwch chi ddiolch i mi am gyflwyno hufen iâ yno.”

Fe ddaeth nifer helaeth o fewnfudwyr Eidalaidd o dref Bardi yng ngogledd yr Eidal ac ymgartrefu yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Wrth annerch Aelodau Seneddol, mi wnaeth Tonia Antoniazzi dynnu sylw at faterion pwysig iddi gan gynnwys rhyddid dinasyddion Ewrop i deithio dros ffiniau yn ddi-rwystr a Morlyn Bae Abertawe.